Dechreuodd Moira yn ffatri Tic Toc ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed (?1963). Ffatri Gymraeg iawn. Noda’r hyfforddiant; canu ar y gwaith; dal yr ‘eyeglass’ yn y llygad; targedi; a‘r straen ar y llygad i wneud wats menyw. Gadawodd i gael y plant (c.1970) ond dychwelodd i weithio ar watshys poced dynion. Yna bu’n gwneud clociau ceir yn Enfield. Yn Tic Toc - doedd dim llwch a gwisgent esgidiau rwber. Dynion oedd ar ‘inspection’ a bechgyn oedd yn brentisiaid. Sonia am chwarae triciau ar ferched a bechgyn oedd yn priodi ac ar ferched newydd, gwisgo rolyrs i fynd allan nos Wener. Dyma ‘yr ysgol ore’. Roedd Clwb yn trefnu tripiau, partïon Nadolig i’r plant, a chystadleuaeth Miss Tic Toc. Glanhau popeth pan fyddai’r rheolwr yn dod o amgylch. Symudodd i ffatri clociau ceir yng Nghae’r Bont wedyn (?1985) - gwaith mwy brwnt. Bu hi yno 28 mlynedd.
Gadawodd Meriel yr ysgol yn bymtheg oed. Bu’n gweithio mewn siop cyn cael gwaith yn Ffatri Tic Toc. Bu yno o 1955 tan 1980, pan gaeodd y ffatri. Roedd yn rhaid cael prawf llygaid gan fod y gwaith gwneud watshys yn fân iawn. Roedd yn ffatri gartrefol Gymraeg. Doedden nhw ddim yn cael siarad wrth weithio, ond roedden nhw’n canu. Sonia am yr undeb a mynd ar streic oherwydd y gwres a’r oriau hir. Disgrifia bryfocio’r dynion adeg y Nadolig a’r prentisiaid newydd; cystadleuaeth Miss Tic Toc a chymdeithasu.
Gadawodd Catherine yr ysgol ramadeg yn 16 oed ac ar ôl cyfnod mewn siop aeth, fel pawb arall yn yr ardal, i weithio i Ffatri Tic Toc o tua 1958 tan iddi gael ei phlentyn cyntaf yn 1967. Disgrifia ddysgu’r grefft o gael watsh menyw i ‘anadlu’ a thynnu coes merched newydd. Cofia bartïon Nadolig y ffatri pan oedd yn blentyn a phrynu watshys yn rhatach. Sonia am rôl y fforman – dyn bob amser. Roedd yn lle glân iawn a hapus gyda thipyn o ganu. Cofia hi Gymraeg a Saesneg yno a phawb fel teulu.
Gadawodd Joyce yr ysgol yn 15 oed (1947) a dechrau yn Tic Toc (1947-62) - yna 9 mlynedd ‘allan’ gyda’r plant a dychwelyd am 17 mlynedd (1971-88). Roedd yn anodd cael gwaith yn- rhaid tynnu llinynnau. Gwneud coiliau ar gyfer awyrennau. Pan ddechreuon nhw wneud watshys aeth ar 'inspection' ar safle’r Anglo - adeilad hyfryd di-lwch. Roedd ofn mynd i’r toiled arni ar y dechrau. Roedd bechgyn yr adran awtomatig yn chwibanu. Yn yr ardal ddi-lwch - gwisgo esgidiau rwber ac oferôls arbennig. Gwneud 3000 o watshys y diwrnod (eu setio â llaw) ac ymlaen i 7 rac reoleiddio arall cyn eu bod yn barod. Bu’n llenwi bylchau hefyd. Pan agorodd ffatri glociau Enfield hyfforddodd ar gyfer y shifft 4.30-9.30, menywod priod yn bennaf a drwgdeimlad rhyngddynt a’r shifft ddydd am eu bod yn taro’u targedi. Cyhoeddi priodasau yng Nghylchgrawn Tic Toc. Bu ei gŵr yn 'shop steward' gyda’r AEU. Rheolau caeth - Swyddog Personél. Anaf i’w chefn oherwydd y gwaith? Cafodd gloc Enfield gan ei chydweithwyr pan briododd yn 1951. Dosbarthiadau dawnsio, dawnsfeydd a thripiau. Doedd gan y gweithwyr newydd (1980au) ddim parch ac roedd eu hiaith yn anweddus.
Disgrifia y siaradwraig ei magwraeth. Gadawodd yr ysgol i weithio yn Woolworths’ cyn symud i ffatri Tic Toc (c. 1958), lle'r oedd yn ennill ‘lot o arian’. Gadawodd pan oedd yn feichiog (c. 1965). Pan oedd y plant yn fach dechreuodd yn ffatri Economics yn gwneud drymiau i waith y Mond (c.1970-1). Roedd hwn yn waith budr dan amodau swnllyd a gwael. Symudodd i weithio yng nghantîn Berlei’s (c.1971-81) a daeth yn rheolwraig yno. Disgrifia brynu bras am chwe cheiniog, amseru mynd i’r toiledau, ‘talwyr da’, undebaeth, cerddoriaeth, a thrip ar y trên i Lundain gyda ffatri Merthyr. Pan gaeodd y ffatri aeth yn ôl i Tic Toc (gwaith Rover) (1983-90). Daeth yn oruchwylwraig yno a gwnaeth radd mewn rheoli busnes.
VSW045 Mary Lyn Jones, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais
Gadawodd Mary Goleg Technegol Pontardawe yn 16 oed yn 1960. Ar ôl cyfnod yn siop David Evans symudodd i weithio i adran gwneud casys watshys, ffatri Tic Toc (1963). Sonia am reolau’r siop aur yno ac am un ddamwain ddifrifol ar y ‘presses’. Roedd hi’n flin nad oedd modd i ferched y ffatri gael prentisiaethau yno. Roedd cael perthynas yn y ffatri yn help i gael swydd yno. Undebaeth - hi’n gwrthwynebu cyfrannu at y Blaid Lafur a disgrifia achosion ambell streic. Mae’n crybwyll nyrs y gwaith a’r damweiniau bychain. Gadawodd hi yn 1968 achos roedd hi eisiau gyrfa.