English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VSE081 Di-enw, Slumberwear, Y Barri;Sidroy's Lingerie, Y Barri

Ar gytundeb yn Sidroy’s Lingerie, y Barri. Gweithiai y siaradwr i gwmni adeiladu ei dad yn cynnal a chadw (c. 1964-8) adeiladau a.y.b. yn y ffatri. Yn lleol gelwid Sidroy’s yn ‘y ffatri niceri’ ond roeddent yn gwneud pob math o ddillad isaf yno. Roedd e’n ofnus iawn o’r menywod - roedd eu hiaith yn anweddus a byddent yn tynnu dillad dynion a bechgyn a’u gorchuddio â saim/ olew os oedden nhw’n rhy hunan-hyderus. Digwyddodd hynny iddo fe unwaith - roedd ei dad wedi ei rybuddio. Teimlai fod gwaith y merched yn undonog iawn. Roedd y menywod eisiau cadw’r dynion yn eu lle.

VSW038 Di-enw, Slimma, Aberteifi

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 16 oed (1964) a mynd yn syth i ffatri Slimma, fel 'machinist', yn gwneud ffrogiau merched a beltiau. Yna aeth ei golwg yn wan ac ni allai wneud y beltiau felly gadawodd. Aeth I weithio mewn gwesty. Yn y ffatri doedden nhw ddim yn cael siarad ac roedd hi’n reit swnllyd. Roedd yr oruchwylwraig yn eu gwylio drwy’r amser. Câi gweithwyr neilltuol gynnig gwaith dros amser. Roedd yn well ganddi weithio yn y gwesty.

VSW029 Di-enw, Ffatri 'powder puff' Revlon, Pontardawe;Ffatri gwneud beltiau, Ynysmeudwy

Gadawodd y siaradwaig yr ysgol am nad oedd ei thad yn iach ac aeth i weithio i’r ffatri feltiau. O fewn blwyddyn roedd hi’n oruchwylwraig. Gallai ddod â gwaith adre i ennill mwy o arian. Dydy hi ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael eu trin yn dda - roedd yn rhaid gweithio’n galed. Roedd gwynt y gliw yn gryf iawn. Caeodd y ffatri ar ôl 2½ mlynedd a symudodd i Revlon lle gweithiodd am 2½ mlynedd arall. Gadawodd pan oedd yn feichiog.

VSW030 Di-enw, Berleis, Pontardawe;Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Economics, Pontardawe

Disgrifia y siaradwraig ei magwraeth. Gadawodd yr ysgol i weithio yn Woolworths’ cyn symud i ffatri Tic Toc (c. 1958), lle'r oedd yn ennill ‘lot o arian’. Gadawodd pan oedd yn feichiog (c. 1965). Pan oedd y plant yn fach dechreuodd yn ffatri Economics yn gwneud drymiau i waith y Mond (c.1970-1). Roedd hwn yn waith budr dan amodau swnllyd a gwael. Symudodd i weithio yng nghantîn Berlei’s (c.1971-81) a daeth yn rheolwraig yno. Disgrifia brynu bras am chwe cheiniog, amseru mynd i’r toiledau, ‘talwyr da’, undebaeth, cerddoriaeth, a thrip ar y trên i Lundain gyda ffatri Merthyr. Pan gaeodd y ffatri aeth yn ôl i Tic Toc (gwaith Rover) (1983-90). Daeth yn oruchwylwraig yno a gwnaeth radd mewn rheoli busnes.

VSW024 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Wdig

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed (1970) ac aeth i Slimma’s Aberteifi, yn dilyn diwrnod agored yn yr ysgol. Cafodd brawf ar y peiriant gwnïo. Dechreuodd yn gwneud bandiau gwasg ac yna pocedi. Roedd yn rhaid cadw i fyny â’r llinell neu byddai’n effeithio ar dâl pawb. Roedd hi’n araf am ei bod yn llaw-chwith. Roedd yn waith blinedig ac undonog ond crefftus. Bu yno am 33 mlynedd. Roedd y dynion ar y pres yn cael mwy o dâl na’r merched. Yr undeb ac anghydfodau am amodau gwaith. Roedd defnyddio’r peiriant pwythau cloi a’r 'fire-threading' yn waith brwnt. Nid oeddech wedi cymhwyso ar y peiriant tan i chi gael nodwydd trwy’ch bys. Iechyd a Diogelwch. Cofnodi’r gwaith ar docynnau. Roedd ganddi drafferthion clyw a thynnai ei chymorth clyw allan ar lawr y ffatri. Mae ganddi ddisg sy’n dirywio oherwydd eistedd drwy’r dydd. Roedd y Nadolig yn hwyl fawr. Byddai pawb yn ymddwyn yn dda pan ddeuai ymwelwyr o M&S. Roedd yn drist iawn pan gafodd ei diswyddo – mae’n colli mynd i‘r gwaith.

VSW022 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Wdig

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 16 oed (1978) a dechrau yn Slimma’s - roedd y rheolwr wedi ymweld â’i hysgol a chynnig swydd yn gwnïo iddi. Dechreuodd gyda thacio bar, ymlaen i droi dillad ac yna i’r peiriant gwneud dolenni. Roedd e’n anodd. Roedd y ffatri yn swnllyd a phoeth. Caent ddisgownt o 50% ar drowseri, esgidiau a chardiganau yn siop y ffatri. Câi help i gyrraedd targedi. Bu diffyg cydymdeimlad pan roedd angen gadael am gyfnod. Teimlai’n falch ei bod yn gwneud dillad i M&S. Collodd ewin mewn peiriant - iawndal. Iechyd a Diogelwch - dim bagiau ar y llawr na chotiau ar gefn cadeiriau. Ni chaent siarad - byddai’n effeithio ar y targedau. Cafodd fwgwd i’w wisgo oherwydd y llwch. Byddai’n chwythu a sgleinio ei pheiriant. Diswyddo pan gaeodd y ffatri (2002) - cafodd sioc ac nid yw wedi gweithio ers hynny. Cafodd wats am 20 mlynedd o wasanaeth.

VSW007 Di-enw, Morris Motors (Nuffields), Llanelli

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed yn 1959 ac ar ôl gweithio am gyflog isel mewn siop, dechreuodd yn Morris Motors yn 1962; ‘blynyddoedd hapusa mywyd i’. Roedd pobl, meddai, yn dweud ‘merched ffatri – comon’ ond doedd dim ymladd nac iaith anweddus yno. Roedd oriau’r ffatri yn fwy cymdeithasol. Cafodd gynnig mynd i Rydychen i ddysgu sut i hyfforddi cyflogeion ond roedd yn feichiog. Cafodd y rhybudd pan oedd 6½ mis yn feichiog (1969). Roedd sawl aelod o’r teulu’n gweithio yno. Dychwelodd fel goruchwylwrig (1970-4) gyda’r nos. Wedyn gweithiodd yn y Co-op. Yn Morris Motors roedd yn hoffi’r gwaith cyson, y gwyliau a’r awyrgylch hapus. Câi gweithwyr Rhydychen gyflogau uwch am yr un gwaith. Amodau: menig rwber, meddygfa a nyrs; damweiniau; yr oerfel, canu i 'Workers’ Choice'; ei gŵr yn anghymeradwyo’r gwaith. Stopiodd British Leyland y bonysau – targedau wrth yr awr nawr. Hwyl ar Noswyl Nadolig. Teimlai ei bod yn cael ei gwerthfawrogi yn y ffatri oherwydd roedd hi a’i hefeilles (VSW006) yn weithwyr da.

VSW013 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Aberteifi

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed (1968) a dechreuodd yn Slimma’s. Calders oedd yno cyn hynny. Slimma’n gwneud trowseri sgïo. Ei swydd gyntaf oedd pacio, yna labelu. Teimlai’n hen ffasiwn o’i gymharu â’r merched eraill - sgerti mini, esgidiau platform, smocio a mynd i’r dafarn. Dim targedau, Dim undeb. Yna cymerodd Dewhirst drosodd (ar ôl sawl cwmni arall), roedd targedau anodd ac undebau. Cofia ferched Slimma’n smwddio’u gwalltiau! Miwsig metel trwm. Pan oedd rhywun yn disgwyl babi byddent yn gweithio o fewn wythnosau i’r geni ac yn dod yn ôl o fewn wythnosau - cadw’ch swydd yn agored. Gadawodd pan oedd yn feichiog (tua 1972) a dychwelyd tua 1980. Hollol wahanol: dysgu sgiliau newydd, tâl yn dibynnu ar gyrraedd targedau; ac iawndal am wnïo drwy fys. Noda’r system Eaton o tsiecio perfformiad - ofnadwy; twyllo; tâl goramser da; enw da/ drwg merched y ffatri; bechgyn yn 'machinists' - problemau; sut câi goruchwylwyr eu swyddi; rhegi a’r undeb a rhai’n dwyn dillad. Cafodd syndrom twnnel y carpws wrth hemio - bu’n archwilio ond dychwelodd yn beiriannydd. Clwb cymdeithasol a thripiau e.e. i Iwerddon. Cafodd ei diswyddo yn 2002.

VSW006 Di-enw, Morris Motors (Nuffields), Llanelli

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 1959 yn 15 oed a dechrau yn y ffatri yn 1960. Ei mam gafodd y swydd iddi. Roedd yn gweithio ar y rheiddiaduron. Gwaith ar dasg. Doedden nhw ddim yn stopio i siarad. Y targed - ugain mewn awr. Menywod oedd ar y rheiddiaduron yn bennaf - fyddai dynion ddim yn gwneud y gwaith yma. Dim ond bechgyn oedd yn mynd yn brentisiaid. Roedd menywod yn gadael yn feichiog 6½ mis. Doedd y job ddim yn cael ei chadw yn wag - gadawodd yn 1971. Aeth nôl bedair awr y noson ar ôl geni’r plant. Câi merched y tâl llawn yn 18 oed a dynion yn 21 oed - roedd cyflogau dynion bod amser yn fwy na rhai’r menywod. Caent ddisgownt ar gar - Mini efallai. Undebaeth. Amodau: gwisgo menig rwber oherwydd asid; damweiniau - collodd un bachgen ei fys; yr oerfel; 'Workers’ Choic'e ar y radio. Noda weithio mewn ffatri hufen ia ym Mhen-bre lle bu bron iddi lewygu oherwydd y cludfelt. Clwb Morris Motors - partïon Nadolig i’r plant.

VSE068 Di-enw, Louis Edwards, Maesteg;Esgidiau George Webb, Penybont

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15oed (1964) a dechrau yn Ffatri Louis Edwards, yn gwneud dillad menywod. Mae hi’n ddislecsig ond gallai basio unrhyw brawf ar beiriant gwnïo. Roedd yn gwneud coleri a chyffiau. Roedd yn ennill dwywaith cyflog ei gŵr yn y lofa. Gadawodd pan gafodd ei babi cyntaf. Dychwelodd i Louis Edwards ond yna aeth i weithio yn y ffatri esgidiau. Roedd yn casáu yno - gwnïo gwahanol iawn. Yna bu’n nyrsio am 10 mlynedd. Mae’n sôn am gerdded allan o’r ffatri ac eistedd ar y ffordd. Bydden nhw’n casglu ar gyfer pen-blwyddi a babanod newydd. Prynu ffrogiau diffygiol am £1. Gwaith ar dasg. Gwneud ffrogiau tebyg ar gyfer tripiau blynyddol. Helpu eraill i orffen eu gwaith ac ennill dwywaith y pae am hynny. Os byddech yn gwneud camgymeriad byddech yn dod i mewn yn gynnar i’w gywiro. Prynu losin ar brynhawn Gwener - dim gwaith. Arhosodd yn ffatri George Webb am chwe wythnos. Rhwng cael y plant bu’n gweithio yn ffatrïoedd Revlon a (Silent) Channel. Nodwyddau trwy fysedd - dim gwaith dim tâl.

Administration